
2009 Rhif 1095 (Cy.98) (C.63)
PRIFFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2009
Gwnaed 27 Ebrill 2009
Yn dod i rym 1 Mai 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 99 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
RHAN 1 CYFFREDINOL
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004.
Cychwyn darpariaethau
2 
1 Mai 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2004—
(a) Adrannau 1 i 12;
(b) Adran 13 (i'r graddau y mae'n ymwneud â chaffael tir yng Nghymru gan Weinidogion Cymru);
(c) Adrannau 14 a 15.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
27 Ebrill 2009