
2009 Rhif 1092 (Cy.97)
BWYD, CYMRU
Y Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009
Gwnaed 27 Ebrill 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ebrill 2009
Yn dod i rym 25 Mai 2009

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990:
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 25 Mai 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995
2 

(1) Diwygier Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Directive 95/45/EC” ac yn ei le rhodder y diffiniad canlynol—“
 “Directive 2008/128/EC” means Commission Directive 2008/128/EC laying down specific purity criteria concerning colours for use in foodstuffs;”;
(b) yn y diffiniad o “permitted colour”, yn lle'r ymadrodd “the annex to Directive 95/45/EC” rhodder yr ymadrodd “Annex 1 to Directive 2008/128/EC”.
Diwygio Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995
3 

(1) Diwygier Rheoliadau Melysyddion Mewn Bwyd 1995 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) —
(a) hepgorer y diffiniad o “Directive 95/45/EC” ac yn ei le rhodder y diffiniad canlynol—“
 “Directive 2008/60/EC” means Commission Directive 2008/60/EC laying down specific purity criteria concerning sweeteners for use in foodstuffs;”;
(b) yn y diffiniad o “permitted sweetener”, yn lle'r ymadrodd “the annex to Directive 95/31/EC” rhodder yr ymadrodd “Annex 1 to Directive 2008/60/EC”.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
4 

(1) Diwygier Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 yn unol â pharagraff (2);
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad “Directive 96/77/EC” ac yn ei le rhodder y diffiniad canlynol—“
 “Directive 2008/84/EC” means Commission Directive 2008/84/EC laying down specific purity criteria on food additives other than colours and sweeteners as that Directive was before the amendments made by Commission Directive 2009/10/EC;”;
(b) yn y diffiniad o “purity criteria”, yn is-baragraff (a) yn lle'r ymadrodd “the Annex to Directive 96/77/EC” rhodder yr ymadrodd “Annex I to Directive 2008/84/EC”.
G. Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
27 Ebrill 2009