
2009 Rhif 109 (Cy.22)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 26 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Ionawr 2009
Yn dod i rym 19 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109C o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 ac a freiniwyd bellach ynddynt drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2009. Daw i rym ar 19 Chwefror 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006 wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (2).
(2) Yn erthygl 5, yn lle “30 Mehefin 2009”, rhodder “31 Rhagfyr 2009”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2009