
2009 Rhif 108 (Cy.21)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 26 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Ionawr 2009
Yn dod i rym 18 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008
2 

(1) Diwygier Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008 yn unol â pharagraffau (2) i (3) isod.
(2) Yn lle'r diffiniad o “cyfnod allweddol 2” (“key stage 2”) yn rheoliad 2(1) rhodder—“
 mae i “cyfnod allweddol 2” yr ystyr a roddir i “key stage 2” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002;”
(3) Yn rheoliad 3(1) yn lle'r geiriau “sefydliadau addysgol” rhodder y geiriau “sefydliadau addysgol cymwys”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2009