
2009 Rhif 106 (Cy.20)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 24 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Ionawr 2009
Yn dod i rym 20 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.

Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 20 Chwefror 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
2 

(1) Diwygier Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) —
(a) ym Mhennod A, yn y cofnodion ynghylch fflworin—
(i) ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 2 ychwaneger “— complete feeding stuffs for fish”, a
(ii) ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 3 ychwaneger “350”;
(b) ym Mhennod C —
(i) hepgorer y cofnodion ynghylch Apricots, Bitter almond and Camelina;
(ii) ar gyfer y cofnodion ynghylch Weed seeds etc. rhodder y canlynol —

Column 1 Column 2 Column 3
Undesirable substances Products intended for animal feed Maximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12%
Weed seeds and unground and uncrushed fruits containing alkaloids, glucosides or other toxic substances, separately or in combination including: All feeding stuffs 3000
Datura stramonium L.  1000
(c) ym Mhennod D, yn y cofnodion ynghylch DDT yng ngholofn 1, yn lle'r ymadrodd mewn cromfachau rhodder “(sum of DDT-, DDD- (or TDE-) and DDE-isomers, expressed as DDT)”.
(3) Yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn rhes gyntaf y tabl ym Mhennod A, rhodder y cofnodion a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
24 Ionawr 2009
YR ATODLEN
Cofnodion sydd i'w rhoi yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn Atodlen 7 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
Rheoliad 2(3)


Particular nutritional purpose Essential nutritional characteristics Species or category of animal Labelling declarations Recommended length of time for use Other provisions
Support of renal function in case of chronic renal insufficiency(1) Low level of phosphorus and restricted level of protein but of high quality Dogs and cats 
— Protein source(s)
— Calcium
— Phosphorus
— Potassium
— Sodium
— Content of essential fatty acids (if added) Initially up to 6 months(2) Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”.
     Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”.
 or    
 Reduced phosphorus absorption by means of incorporation of Lanthanum carbonate octahydrate Adult cats 
— Protein source(s)
— Calcium
— Phosphorus
— Potassium
— Sodium
— Lanthanum carbonate octahydrate
— Content of essential fattyacids (if added) Initially up to 6 months(2) Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”.
     Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”.