
2009 Rhif 1035 (Cy.90)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009
Gwnaed 22 Ebrill 2009
Yn dod i rym 23 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi ac yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 23 Ebrill 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “yr Atodlen” yw'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau'r GIG
2 
Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth GIG a bennir yng ngholofn 1 yr atodlen yw'r swm a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 yr Atodlen
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
22 Ebrill 2009
YR ATODLEN
Rheoliad 2


Ymddiriedolaeth GIG Cyfalaf Cychwynnol
Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg £485,420,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf £277,694,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda £165,253,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru £306,609,000