
2008 Rhif 983 (Cy.108) (C.48)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008
Gwnaed 2 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32(3) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008.
Darpariaeth yn dod i rym
2 
Daw adrannau 18(1) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 i rym ar 18 Ebrill 2008.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2008