
2008 Rhif 940 (Cy.100)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Diddymu) 2008
Gwnaed 28 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 28(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a Chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
Diddymu Ymddiriedolaeth GIG
2 
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Sefydlu) 1996, ac yn unol â hynny dirymir y Gorchymyn hwnnw.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008