
2008 Rhif 934 (Cy.94)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Diddymu) 2008
Gwnaed 28 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 28(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
Diddymu Ymddiriedolaeth GIG
2 
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ceredigion a Chanolbarth Cymru (Sefydlu) 1992 ac, yn unol â hynny, dirymir y Gorchymyn hwnnw.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008