
2008 Rhif 931 (Cy.91)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Gwnaed 28 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel a ragnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo"” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008;
 ystyr “yr hen ymddiriedolaeth"” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;
(c) elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd
4 
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
28 Mawrth 2008
ATODLEN 1
Erthygl 3(b)


Eiddo Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys)
Ysbyty
Ysbyty Dyffryn Aman Rhydd-ddaliad (WA830179)
Ysbyty Llanymddyfri Rhydd-ddaliad (WA824588)
Ysbyty Mynydd Mawr Rhydd-ddaliad (WA791307)
Ysbyty'r Tywysog Philip Rhydd-ddaliad (WA253967)
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru Rhydd-ddaliad (WA854392) Rhydd-ddaliad (WA851840) Rhydd-ddaliad (CYM8170)
Canolfannau Iechyd
Canolfan Iechyd Cross Hands Rhydd-ddaliad (WA750262)
Gwasanaethau Deintyddol, Canolfan Iechyd Cross Hands Lesddaliad
Canolfan Iechyd Llwynhendy Lesddaliad
Clinigau
Clinig Heol y Pwll, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA824587)
Clinig Elizabeth Williams, Llanelli Rhydd-ddaliad (WA293483) a (CYM93884)
Amrywiol
Trefniadau i ddefnyddio Ystafelloedd Cyfweld yr Awdurdod Heddlu yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru Lesddaliad
Meddiannu safle Ysbyty Dewi Sant — blociau 01,07 a 19 Lesddaliad
39, Heol Bronwydd, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA816889)
Cyfleuster Gwasanaethau Arlwyo ym Mryntirion, Llanelli Lesddaliad
Cyfleusterau Crèche yn Ysbyty'r Tywysog Philip Lesddaliad
3 Heol Dolgwili, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA750254)
18, Hafod Cwnin, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA774375)
Ystafell 3, Tudor House, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr Lesddaliad
Tŷ Arthur, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru Lesddaliad
Tŷ Cymorth, 1 Heol Bronwydd, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA750257)
ATODLEN 2
Erthygl 3(c)

Cronfa Elusennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys pob is-elusen) — Rhif Elusen 1049213.
