
2008 Rhif 927 (Cy.90)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Gwnaed 28 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Ebrill 2008;
 ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a berir gan yr erthygl hon.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn yr Atodlen.
Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd
4 
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
YR ATODLEN
Erthygl 3(b)


Eiddo Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg
Ysbyty
Castell-nedd Port Talbot Rhydd-ddaliad (WA634236)
Cimla Rhydd-ddaliad (WA788547)
Glan-rhyd (gan Clinig Caswell) Rhydd-ddaliad (WA683580) gynnwys
Maes-gwyn Rhydd-ddaliad (WA723641)
Maesteg Rhydd-ddaliad (WA69691)
Tonna Rhydd-ddaliad (WA787072)
Tywysoges Cymru Rhydd-ddaliad (WA683500)
Canolfannau Iechyd
Blaengwynfi Rhydd-ddaliad (WA535702)
Castell-nedd Rhydd-ddaliad (WA788533)
Glyncorrwg Rhydd-ddaliad (WA787088)
Llansawel Rhydd-ddaliad (WA788469)
Llanilltud Fawr Rhydd-ddaliad (WA767960)
Port Talbot Rhydd-ddaliad (WA787096)
Y Bont-faen Rhydd-ddaliad
Y Cymer Rhydd-ddaliad (WA788542)
Clinigau
Abercynffig Rhydd-ddaliad (WA683571)
Baglan Rhydd-ddaliad (WA787058)
Bro Ogwr Rhydd-ddaliad (CYM16926)
Bryncethin Rhydd-ddaliad (WA683576)
Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr Rhydd-ddaliad (WA683609)
Caerau Rhydd-ddaliad (WA683614)
Y Cymer, Croeserw Rhydd-ddaliad (WA788467)
Cwmafan Rhydd-ddaliad (WA788552)
Glyn-nedd Rhydd-ddaliad (WA788540)
Gwauncaegurwen Rhydd-ddaliad (WA902057)
Gogledd Corneli Rhydd-ddaliad (WA683624)
Heol Cwarela, Pen-y-bont ar Ogwr Rhydd-ddaliad (CYM18893)
Mynydd Cynffig Rhydd-ddaliad (CYM229523)
Pen-coed Rhydd-ddaliad (WA683602)
Pontycymer Rhydd-ddaliad (WA683622)
Port Talbot Rhydd-ddaliad (WA788011)
Resolfen Rhydd-ddaliad (WA788558)
Sgiwen Cefn Parc Rhydd-ddaliad (WA787103)
Ystalyfera Rhydd-ddaliad (WA788580)
Anableddau Dysgu
Byngalo Bryn Afon, Ferndale Rhydd-ddaliad (WA142507)
Byngalo Dan y Bont, Mynydd Cynffig Rhydd-ddaliad (WA103201, WA950795 & WA944101)
Byngalo Dan y Deri, Treforys Rhydd-ddaliad (WA788490)
Byngalo Llety Newydd, Yr Eglwys Newydd Rhydd-ddaliad (CYM23543)
Byngalo Meadow Court, Tonyrefail Rhydd-ddaliad (WA336282 & CYM75532)
Canolfan Asesu Hafod y Wennol, Hensol Rhydd-ddaliad (CYM101833)
Canolfan Asesu Llwyneryr Rhydd-ddaliad (WA788490)
Byngalo Swyn yr Afon, Blaendulais Rhydd-ddaliad (WA142507)
Byngalo The Briary, Trelái, Caerdydd Rhydd-ddaliad (WA887948)
Byngalo The Laurels, Trelái , Caerdydd Rhydd-ddaliad (WA887948)
Byngalo Tŷ Penfro, Treganna, Caerdydd Rhydd-ddaliad (WA404686)
Byngalo Tŷ Garth Newydd, Pentre'r Eglwys Rhydd-ddaliad (CYM66004)
Uned Asesu Rowan House, Trelái, Caerdydd (a rhan o Ganolfan Iechyd Park View Health cyfagos) Lesddaliad
Iechyd Meddwl
Canolfan TIMC Gelli Gron, Pontardawe Lesddaliad
TIMC Forge, Port Talbot Rhydd-ddaliad (WA536914)
TIMC Porthcawl, 267 New Road, Porthcawl Rhydd-ddaliad (WA586819)
TIMC Brackla House, Pen-y-bont ar Ogwr Lesddaliad
Amrywiol
7a Boverton Road, Llanilltud Fawr Lesddaliad
16/18 Derwen Road, Pen-y-bont ar Ogwr Lesddaliad
45/47 South Road Porthcawl Lesddaliad
Bevan House, Cyflenwadau Iechyd Cymru, Llanisien Lesddaliad
Uned 16, Lambourne Crescent, Llanisien Lesddaliad
Denbigh Stores, Clwyd Rhydd-ddaliad (CYM312486)
Glynteg House, Trelái, Caerdydd Lesddaliad
North Road Stores, Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr Lesddaliad
Canolfan Gofal Sylfaenol Pontardawe Lesddaliad
Heol Cwarela, Swyddfeydd Pencadlys yr Ymddiriedolaeth, Pen-y-bont ar Ogwr Rhydd-ddaliad (WA683598)
Canolfan Sbectrwn, Y Tyllgoed, Caerdydd Lesddaliad
Uned 3, Cowbridge Court, Caerdydd Lesddaliad
Unedau 22 a 23, Ystad Ddiwydiannol Baglan Industrial Estate Lesddaliad
10/11 Ffordd yr Hen Gae, Bocam Park, Pen-coed Lesddaliad
Uned 81, Bowen Court, Llanelwy Lesddaliad
1 Commercial Street, Bro Ogwr Lesddaliad
Innovation House, Llanharan Lesddaliad
Uned 2, Parc Busnes Tonysguboriau Lesddaliad
Canolfan Gofal Sylfaenol Cwm Dulais Lesddaliad