
2008 Rhif 926 (Cy.89)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Gwnaed 28 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel a ragnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo”” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008;
 ystyr “yr hen ymddiriedolaeth”” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” ( (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn yr Atodlen.
Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd
4 
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
YR ATODLEN
Erthygl 3(b)


Eiddo Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe
Ysbyty
Cefn-coed Rhydd-ddaliad (WA787048)
Clydach Rhydd-ddaliad (WA788486)
Fairwood Rhydd-ddaliad (WA702267)
Y Garn Goch Rhydd-ddaliad (WA88518)
Gelli-nudd Rhydd-ddaliad (WA772142)
Gorseinon Rhydd-ddaliad (WA753877)
Hill House Rhydd-ddaliad (WA702266)
Treforys Rhydd-ddaliad (WA772157)
Singleton Rhydd-ddaliad (WA702265)
Singleton i'r gorllewin o Lôn Sgeti Rhydd-ddaliad (WA293221)
Canolfannau Iechyd
Clydach Rhydd-ddaliad (WA788486)
Pen-clawdd Rhydd-ddaliad (WA787081)
Clinigau
Bôn-y-maen Rhydd-ddaliad (WA787062)
Clinig Canolog Rhydd-ddaliad (WA245563)
Cwmbwrla Rhydd-ddaliad (WA787106)
Gorseinon Rhydd-ddaliad (WA788494)
Treforys Rhydd-ddaliad (WA772157)
Murton Rhydd-ddaliad (WA787094)
Norton Villa Lesddaliad (WA870392)
Pontarddulais Rhydd-ddaliad (WA787066)
Iechyd Meddwl
Canolfan y Berllan, Abertawe Rhydd-ddaliad (WA517503)
Tŷ Einon, Gorseinon Rhydd-ddaliad (WA438440)
Westfa a Swyddfeydd, Abertawe Rhydd-ddaliad (WA790049)
Amrywiol
Clos George Morgan plotiau 1-47, Ysbyty Treforys Rhydd-ddaliad (wedi'i gynnwys yn 'Treforys' uchod)
Fforest Industries, Heol Caerfyrddin, Abertawe Lesddaliad (WA647208)
Strom Team, Heol Walter, Abertawe Lesddaliad (CYM256849)
Canolfan Phoenix, Uned 10, Townhill Abertawe Lesddaliad
Canolfan Arc, Broughton Avenue, Abertawe Lesddaliad
Canolfan Newid, Ffordd Caernarfon, Abertawe Lesddaliad
Courtney Street, Manselton, Abertawe Lesddaliad (CYM276439)
Canolfan Oldway 7fed Llawr, Abertawe Lesddaliad (CYM245479)
695 Heol Llangyfelach, Abertawe Lesddaliad (CYM256849)
Golchdy Llansamlet Rhydd-ddaliad (WA54254)