
2008 Rhif 924 (Cy.88)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Gwnaed 28 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008;
 ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (2) a (3) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a bernir gan yr erthygl hon.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) Y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) Eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.
(c) Elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd
4 
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
ATODLEN 1
Erthygl 3(b)


Eiddo Deiliadaeth Rhif Teitl os yw'n gymwys
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda
Ysbyty
Brenhinol Morgannwg Rhydd-ddaliad WA631383WA630843WA962482CYM46243
Dewi Sant Rhydd-ddaliad WA745331
Llwynypia Rhydd-ddaliad WA751195
Ysbyty George Thomas Rhydd-ddaliad WA523391WA523398
Pontypridd a'r Cylch Rhydd-ddaliad WA744920
Ysbyty Cwm Rhondda Rhydd-ddaliad CYM69858CYM47332WA272586
Clinigau/ Canolfannau Iechyd
Canolfan Iechyd Tonypandy Rhydd-ddaliad WA744914
Clinig Carnegie Rhydd-ddaliad WA744912
Clinig Pen-y-graig Rhydd-ddaliad WA744916
Clinig Ynys-wen Rhydd-ddaliad WA744097
Clinig Ystrad Rhydd-ddaliad WA214554
Canolfan Iechyd Gilfach Goch Rhydd-ddaliad WA297230
Clinig Llwyn yr Eos Rhydd-ddaliad WA157863
Canolfan Iechyd Pontypridd Rhydd-ddaliad WA744918
Canolfan Iechyd Talbot Green Rhydd-ddaliad WA570953
Clinig Tonyrefail Rhydd-ddaliad WA744913
Canolfan Iechyd Tylorstown Rhydd-ddaliad WA466082WA559467
Canolfan Adnoddau Rhydd-ddaliad WA770734
Iechyd Meddwl Trealaw  WA730588
Canolfan Adnoddau Rhydd-ddaliad WA337585
Iechyd Meddwl Maritime  WA504867
Arall
Uned Brosesu Ganolog, Treorci Lesddaliad 
Unedau 20, 21 a 22 Ystâd ddiwydiannol Caemawr, Treorci, CF42 6EQ Lesddaliad 
Golchdy a Mannau Cysylltiedig ar safle blaenorol Ysbyty Dwyrain Morgannwg Rhydd-ddaliad WA960091WA745335
Safle Blaenorol Ysbyty Tonteg Rhydd-ddaliad WA744919
11 Cedar Wood Drive, Tonyrefail, CF37 8JB Rhydd-ddaliad CYM13913
6 Mayfield Place, Llantrisant, CF72 8QG Rhydd-ddaliad CYM63433
ATODLEN 2
Erthygl 3(c)

Cronfa Elusennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda (gan gynnwys is-elusennau) —Rhif 1049765
