
2008 Rhif 743 (Cy.78)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 12 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mawrth 2008
Yn dod i rym 7 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt  drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ebrill 2008.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
2 
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £21.38 yr wythnos.
Dirymu
3 
Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 a 6(2) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007 drwy hyn wedi'u dirymu.
Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau
4 
Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf — Cymru) yn lle'r ffigur “ £17,250” rhodder y ffigur “£19,000” yn y ddau le y mae'n ymddangos.
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
5 
Ym mharagraff 28H—
(a) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur “£5.25” rhodder y ffigur “£5.45” ym mhob lle y mae'n ymddangos; a
(b) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur “£7.85” rhodder y ffigur “£8.15” ym mhob lle y mae'n ymddangos.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2008