
2008 Rhif 716 (Cy.75)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg (Sefydlu) 2008
Gwnaed 11 Mawrth 2008
Yn dod i rym 12 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 18(1) a (2) a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan adran 18(3) o'r Ddeddf honno ac Atodlen 3 iddi, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg (Sefydlu) 2008 a daw i rym ar 12 Mawrth 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 mae i “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i “operational date” ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;
 ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 12 Mawrth 2008;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “gwasanaethau iechyd cymunedol” (“community health services”) yw unrhyw wasanaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei ddarparu o dan adran 3(1) o'r Ddeddf neu Atodlen 1 iddi;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth” (“the trust”) yw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.
Sefydlu'r ymddiriedolaeth
2 
Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol o'r enw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg neu the Abertawe Bro Morgannwg University National Health Service Trust.
Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth
3 

(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.
(2) Swyddogaethau'r ymddiriedolaeth fydd—
(a) darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys lle mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) o—
(i) Ysbyty Cefn Coed, Ffordd Waunarlwydd, Y Cocyd, Abertawe, SA2 0GH,
(ii) Ysbyty Glanrhyd, Heol Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4LN
(iii) Ysbyty Treforys, Treforys, Abertawe, SA6 6NL;
(iv) Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX,
(v) Ysbyty Tywysoges Cymru, Ffordd Coity, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1RQ,
(vi) Ysbyty Singleton, Sgeti, Abertawe, SA2 8QA,
ac ysbytai a mangreoedd cysylltiedig; a
(b) darparu gwasanaethau caffael i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu mewn cysylltiad ag ef a chaffael nwyddau a gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth
4 

(1) Bydd gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 7 cyfarwyddwr anweithredol a 5 cyfarwyddwr gweithredol.
(2) Gan fod rhaid ystyried fod i'r ymddiriedolaeth ymrwymiad arwyddocaol i addysgu o fewn ystyr paragraff 5(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf, mae un o'r cyfarwyddwyr anweithredol i'w benodi o Brifysgol Abertawe.
Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth
5 

(1) Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth fydd 1 Ebrill 2008.
(2) Dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth fydd 31 Mawrth.
Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol
6 
Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i dyddiad gweithredol, mae i'r ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol—
(a) ymrwymo i gontractau'r GIG;
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c)  gwneud y pethau eraill hynny sy'n rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2008