
2008 Rhif 713 (Cy.74)
BWYD, CYMRUCYFANSODDIAD A LABELU
Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 11 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mawrth 2008
Yn dod i rym 6 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1)(e) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2008.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004
2 
Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 fel a ddarperir yn rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn lle paragraff (2)(b) o reoliad 5 (enw'r bwyd ar gyfer cynhyrchion cig penodorhodder y paragraff canlynol _“
(b)  unrhyw gynhwysyn ychwanegol nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo, ac eithrio startsh, protein neu gynhwysyn a bennir yn Atodlen 3.”.
4 
Yn Atodlen 3 (cynhwysion ychwanegol nad oes angen eu dynodi yn enw'r bwyd mewn achos cynnyrch cig y mae rheoliad 5 yn gymwys iddo), caiff eitemau 6 a 7 a'r nodyn sy'n ymwneud â'r eitemau hynny eu dileu.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2008