
2008 Rhif 7 (Cy.3)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 7 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Ionawr 2008
Yn dod i rym 2 Chwefror 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(3) a (4A) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Enwi, cymhwyso a cychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993
2 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2, yn y nodyn sy'n dwyn y pennawd “Unoccupied Property Rating”, yn lle “50 per cent”, rhodder “100 per cent”.
(3) Ym mharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 2, yn y nodyn sy'n dwyn y pennawd “Ardrethu Eiddo Di-ddeiliad”, yn lle “50 y cant”, rhodder “100 y cant”.
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn cysylltiad ag unrhyw swm sy'n daladwy ar gyfer unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2008.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2008