
2008 Rhif 663 (Cy. 71)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2008
Gwnaed 9 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2008
Yn dod i rym 7 Ebrill 2008

Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r person priodol fel y'i diffinnir yn—
(a) adran 11(1) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 2A(11) o'r Ddeddf honno;
(b) adran 9(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 5B(12) o'r Ddeddf honno;
(c) adran 29(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 34A(12) a 47ZB(4) a (5) o'r Ddeddf honno;
(ch) adran 98(1A)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 88(11) a 97A(1), (2) a (4) o'r Ddeddf honno;
(d) adran 11(2A)(b) o Ddeddf Sŵn 1996, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 8A(4) a (5) o'r Ddeddf honno;
(dd) adran 47(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannau 43A(4) a (5) a 47(4) o'r Ddeddf honno;
(e) adran 9(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 6(11) o'r Ddeddf honno;
(f) adran 66(b) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adrannnau 59(12) a 60(4) a (5) o'r Ddeddf honno; ac
(ff) adran 81(1) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 74(4) a (5) o'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 67(1) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, a'r pwerau a enwir yn is-baragraffau (a) i (ff) uchod yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 7 Ebrill 2008.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Ystodau rhagnodedig o gosbau penodedig
2 

(1) Rhaid i swm cosb benodedig y gellir ei bennu gan—
(a) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 88(6A)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan baragraff 7(4)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c) awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru o dan adran 43A(1)(a) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ch) prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru o dan adran 60(1)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 o ran unrhyw orchymyn rheoli cwn a gafodd ei wneud gan yr awdurdod hwnnw;
(d) awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 74(2)(a) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
beidio â bod yn llai na £75 a dim mwy na £150.
(2) Rhaid i swm cosb benodedig gellir ei bennu gan—
(a) awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru o dan adran 47ZB(2)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru o dan adran 94A(4)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c) awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 8A(2)(a) o Ddeddf Sŵn 1996
beidio â bod yn llai na £100 a dim mwy na £150.
(3) Caiff awdurdod sy'n gweithredu o dan fwy nag un o'r darpariaethau a enwir ym mharagraff (1) neu (2) bennu swm gwahanol o dan bob un o'r cyfryw ddarpariaethau.
Symiau llai o gosbau penodedig
3 

(1) Os bydd—
(a) awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 88(7) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan baragraff 7(5) o Atodlen 3A i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 43A(3) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(ch) prif awdurdod neu awdurdod eilaidd yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 60(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005;
(d) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 74(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £50.
(2) Os bydd—
(a) awdurdod casglu gwastraff yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 47ZB(3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) prif awdurdod sbwriel yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 94A(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(c) awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu o dan adran 8A(3) o Ddeddf Sŵn 1996;
(ch) awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 6(10) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £60.
(3) Os bydd awdurdod lleol sy'n gweithredu o dan adran 2A(10) o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978 yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £120.
(4) Os bydd—
(a) awdurdod rheoleiddio sy'n gweithredu o dan adran 5B(11) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989;
(b) awdurdod gorfodi sy'n gweithredu o dan adran 34A(11) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990,
yn gwneud darpariaeth i drin cosb benodedig yn un a gafodd ei thalu os caiff swm llai ei dalu cyn diwedd cyfnod a bennir gan yr awdurdod hwnnw, rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £180.
Amod sydd i'w fodloni gan berson cyn y caiff awdurdod eilaidd awdurdodi'r person hwnnw at ddibenion rhoi hysbysiadau o gosbau penodedig
4 
Yr amod sydd i'w fodloni gan berson cyn y caiff awdurdod eilaidd awdurdodi'r person hwnnw yn ysgrifenedig at ddibenion rhoi hysbysiadau o dan—
(a) adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b) adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
(c) adran 59 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005,yw fod yn rhaid i'r person gwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddi mewn cosbau penodedig.
Dirymu
5 
Dirymir rheoliadau 1 i 4 o Reoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.
Diwygio teitl Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
6 
Yn nheitl Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 yn lle “(Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol)” rhodder “(Defnyddio Derbynebau Cosbau Penodedig)”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2008