
2008 Rhif 660 (Cy.70)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 10 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 129 a 203 (9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 .
Diwygio'r Rheoliadau Optegol
2 
Diwygir rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn —
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£50.50” rhodder “£51.90”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£13.00” rhodder “£13.40”.
Diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol
3 

(1) Diwygir Atodlenni 1 i 3 o'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod:

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£34.60 £35.50
£52.60 £54.00
£76.90 £79.00
£173.70 £178.40
£59.80 £61.40
£76.00 £78.10
£98.50 £101.20
£190.90 £196.10
£177.90 £182.70.
£50.50 £51.90
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£11.30” rhodder “£11.60”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b) yn lle “£13.50” rhodder “£13.90”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.80” rhodder “£3.90”;
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.30” rhodder “£4.40”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£57.00”, “£50.50” a “£27.30” rhodder “£58.50”, “£51.90” a “£28.00” yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£57.00” rhodder “£58.50”;
(e) ym mharagraff 2(a), yn lle “£13.00” rhodder “£13.40”; a
(f) ym mharagraff 2(b), yn lle “£33.00” rhodder “£33.90”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol
4 
Nid yw'r symiau a amnewidir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2008
YR ATODLEN
ATODLEN 3 I'R RHEOLIADAU OPTEGOL FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
Rheoliad 3(4)

“
SCHEDULE 3
VOUCHER VALUES REPAIR
Regulation 19(2) and (3)


(1) (2)
Nature of Repair Letter of Codes —Values
 A B C D E F G H I
 £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 11.05 20.30 32.80 82.50 24.00 32.35 43.90 91.35 84.65
Repair or replacement of two lenses 22.10 40.60 65.60 165.00 48.00 64.70 87.80 182.70 169.30
Repair or replacement of:         
The front of a frame 11.35 11.35 11.35 11.35 11.35 11.35 11.35 11.35 11.35
A side of a frame 6.75 6.75 6.75 6.75 6.75 6.75 6.75 6.75 6.75
The whole frame 13.40 13.40 13.40 13.40 13.40 13.40 13.40 13.40 13.40.”
