
2008 Rhif 616 (Cy.68)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Swyddogion Gorfodi Sifil (Gwisgo Lifrai) (Cymru) 2008
Gwnaed 6 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mawrth 2008
Yn dod i rym 31 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 76(4) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddogion Gorfodi Sifil (Gwisgo Lifrai) (Cymru) 2008; deuant i rym ar 31 Mawrth 2008 ac maent yn gymwys i Gymru.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004.
Swyddogaethau penodedig
2 

(1) Mae pob swyddogaeth a roddir i swyddogion gorfodi gan y deddfiadau a bennir ym mharagraff (2) neu oddi tanynt yn swyddogaeth ddynodedig at ddibenion adran 76(3)(a) o Ddeddf 2004.
(2) Y deddfiadau hynny yw—
(a) adran 78(2)(a) a (b) o Ddeddf 2004;
(b) adran 79 o Ddeddf 2004; ac
(c) adran 99 o Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Ieuan Wyn Jones
Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2008