
2008 Rhif 600 (Cy.62)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 5 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mawrth 2008
Yn dod i rym 1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy,yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio rheoliad 3 (ffioedd arolygu)
2 
Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£21.00” rhodder “£25.00”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
5 Mawrth 2008