
2008 Rhif 577 (Cy.56)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 3 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Mawrth 2008
Yn dod i rym 28 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 76, 77, 128, 129, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau yw'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2008.
Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997
2 
Yn y diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 —
(a) yn lle “£52.04” rhodder “£53.34”, a
(b) yn lle “£18.85” rhodder “£19.32”.
Diwygio rheoliad 10 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986
3 
Yn rheoliad 10(1) (y datganiad) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ar ddiwedd rheoliad 10(1)(b) yn lle'r geiriau o “A determination” hyd at “relates.” rhodder—“
 A determination may provide that such fees and allowances may be paid in respect of a period beginning on a date earlier than the date of the determination if, taking the determination as a whole, it is not detrimental to the persons to whose remuneration it relates.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2008