
2008 Rhif 56 (Cy.11)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Defnyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008
Gwnaed 14 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Ionawr 2008
Yn dod i rym 8 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2)(c), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth lunio a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Defnyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008, maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig a deuant i rym ar 8 Chwefror 2008.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf (sy'n ymdrin â'r Deml Fewnol a'r Deml Ganol) nac awdurdod iechyd porthladd;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) —
(a) mewn perthynas â dosbarth iechyd porthladd Llundain (o fewn yr ystyr a roddir i “London port health district” at ddibenion Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 gan adran 7(1) o'r Ddeddf honno), Cyngor Cyffredin Dinas Llundain; a
(b) mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
 ystyr “caead” (“lid”) yw caead o'r math a grybwyllir yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes o fan ac eithrio Aelod-wladwriaeth;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson a awdurdodir yn ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, gan awdurdod iechyd porthladd, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn cael ei ddefnyddio yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.
Gorfodi
3 
Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn.
Tramgwyddau a chosbau
4 

(1) Bydd unrhyw berson sydd —
(a) yn mynd yn groes i ofynion Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn neu'n methu â chydymffurfio â hwy (gofynion yn ymwneud â chaeadau sydd wedi eu selio â gasgedi y mae ynddynt sylweddau plastigeiddio penodol);
(b) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(c) heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Comisiwn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod yn rhesymol i'r person hwnnw ofyn amdano neu amdani; neu
(ch) gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (c), yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —
(a) yn achos tramgwydd o dan baragraff (1)(a) —
(i) o'i gollfarnu ar dditiad, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau;
(ii) o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na chwe mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;
(b) yn achos tramgwydd o dan baragraff 1(b), (c) neu (ch), o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel pump ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(c) i'w ddehongli fel ei bod yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth pe byddai gwneud hynny'n ei hunan-argyhuddo.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd
5 

(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol —
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath, bernir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael achos cyfreithiol wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi yn unol â hynny.
(2) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael achos cyfreithiol wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi yn unol â hynny.
Tramgwyddau o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan drydydd person
6 
Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan ryw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.
Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau
7 
Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r tramgwydd neu ar ôl un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y tramgwydd, p'un bynnag yw'r cynharaf.
Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy
8 

(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol, ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth, yn amddiffyniad.
(2) Heb ragfarn yn erbyn natur gyffredinol paragraff (1), dylid cymryd bod person a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 4(1)(a), ac na wnaeth —
(a) paratoi'r caead yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef; na
(b) ei fewnforio i'r Deyrnas Unedig,
wedi profi'r amddiffyniad a ddarparwyd gan baragraff (1) os yw'n bodloni gofynion paragraff (3).
(3) Bydd person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'n profi —
(a) bod y tramgwydd wedi ei gyflawni o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan berson arall nad oedd o dan ei reolaeth, neu o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan y cyfryw berson;
(b) nad rhoi ar y farchnad o dan ei enw neu ei farc ef oedd y weithred o roi ar y farchnad yr honnwyd ei bod yn dramgwydd;
(c) y naill neu'r llall o'r canlynol —
(i) ei fod wedi gwneud ar y caead o dan sylw bob gwiriad o'r fath a oedd yn rhesymol yn yr holl amgylchiadau, neu
(ii) ei bod yn rhesymol iddo yn yr holl amgylchiadau ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd iddo'r caead o dan sylw; ac
(ch) nad oedd yn gwybod, pan gyflawnwyd y tramgwydd, y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn gyfystyr â thramgwydd o dan reoliad 4(1)(a) ac nad oedd ganddo reswm dros amau hynny.
(4) Os bydd honni bod y tramgwydd wedi ei gyflawni o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan berson arall, neu os bydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, yn rhan o'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos, ni fydd hawl gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni bai—
(a) o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b) pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos gerbron y llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig o'r blaen, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir, ei fod wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi'r cyfryw wybodaeth ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny ac sy'n enwi'r person arall hwnnw neu'n helpu i'w enwi.
Y weithdrefn i'w dilyn pan fydd sampl i'w dadansoddi
9 

(1) Bydd swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai gael ei dadansoddi yn rhannu'r sampl yn dair rhan.
(2) Os cynwysyddion wedi eu selio yw cynnwys y sampl ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn rhwystr i'w dadansoddi'n briodol, bydd y swyddog awdurdodedig yn rhannu'r sampl yn rhannau drwy rannu'r cynwysyddion yn dri lot, ac mae pob lot i'w drin fel pe bai'n rhan.
(3) Bydd y swyddog awdurdodedig —
(a) os bydd angen gwneud hynny, yn gosod pob rhan mewn cynhwysydd addas ac yn ei selio;
(b) yn marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;
(c) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn rhoi un rhan i'r perchennog ac yn ei hysbysu'n ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;
(ch) yn cyflwyno un rhan i'w dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; ac
(d) yn cadw un rhan i'w chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 10.
Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth
10 

(1) Pan fydd sampl wedi ei chadw o dan reoliad 9 ac —
(a) y bwriedir dwyn achos cyfreithiol yn erbyn person neu fod achos cyfreithiol wedi ei gychwyn yn ei erbyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a
(b) bod yr erlyniad yn bwriadu dwyn fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddi a grybwyllir uchod,
mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.
(2) O ran y swyddog awdurdodedig —
(a) caiff o'i wirfodd, neu
(b) bydd —
(i) os bydd yr erlynydd yn gofyn iddo wneud hynny (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig yw'r erlynydd),
(ii) os bydd y llys yn gorchymyn felly, neu
(iii) (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gofyn iddo wneud hynny,
yn anfon y rhan a gadwyd o'r sampl at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.
(3) Bydd Cemegydd y Llywodraeth yn dadansoddi'r rhan a anfonir ato o dan baragraff (2) ac yn anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif yn nodi'n benodol beth yw canlyniad y dadansoddiad.
(4) Bydd unrhyw dystysgrif a roddir gan Gemegydd y Llywodraeth yn cael ei llofnodi ganddo neu ar ei ran, ond caniateir i unrhyw berson wneud y dadansoddiad o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.
(5) Bydd y swyddog awdurdodedig cyn gynted ag y bydd y dystysgrif wedi dod i law yn cyflenwi copi o dystysgrif Cemegydd y Llywodraeth i'r erlynydd (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig yw'r erlynydd) a'r diffynnydd.
(6) Os gwneir cais o dan baragraff (2)(b)(iii) caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i glirio rhan neu'r cyfan o ffi Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y diffynnydd yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.
(7) Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” (“defendant”) yn cynnwys diffynnydd arfaethedig.
Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
11 
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a) adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(c) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990
12 
Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990, yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt), ar y diwedd, ychwaneger enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
14 Ionawr 2008