
2008 Rhif 555 (Cy.55)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 29 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Mawrth 2008
Yn dod i rym 31 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 31a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(a) o Reoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) 2008 dileer y geiriau “neu benderfyniad a wneir yn unol â pharagraff 62 neu 63 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992”.
Jane Hutt
Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Chwefror 2008