
2008 Rhif 543 (Cy.53)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 28 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Chwefror 2008
Yn dod i rym 24 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2008, ac maent yn dod i rym ar 24 Mawrth 2008.
Diwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003
2 
Diwygir Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003 fel a ddarperir yn rheoliad 3.
3 
Yn Atodlen 2 yn lle'r geiriau “dim mwy na 0.8 mS/cm” rhodder y canlynol—“
 dim llai na 0.8 mS/cm”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
28 Chwefror 2008