
2008 Rhif 509 (Cy.45)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 26 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Chwefror 2008
Yn dod i rym 19 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, â'r cyrff sy'n ymddangos iddynt yn rhai priodol a chynrychioliadol o ysgolion sydd o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno yn darparu lleoedd drwy gymorth, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2008.
(2) Mae rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â chwestiwn lleddfu perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “cwestiwn lleddfu perthnasol” yw cwestiwn lleddfu o dan Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997 ac—
(a) sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007; a
(b) nad yw wedi'i benderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006
2 
Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006, mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) rheoliad 1 o Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997
3 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,625” ym mhob man y mae'n ymddangos, rhodder “£1,675”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle “£12,470”, rhodder “£12,864”.
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—

(1) Part of relevant income to which specified percentage applies (2) Only assisted pupil (%) (3) Each of two assisted pupils (%) Each of three assisted pupils (%)
That part (if any) which exceeds £12,698 but does not exceed £13,808. 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £13,808 but does not exceed £14,935. 12 9 7
That part (if any) which exceeds £14,935 but does not exceed £17,169. 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £17,169 but does not exceed £20,616. 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £20,616 but does not exceed £25,110. 24 18 14
That part (if any) which exceeds £25,110 33 24.75 19.25
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2008