
2008 Rhif 502 (Cy.43)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 25 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Chwefror 2008
Yn dod i rym 21 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 59, 60 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso.
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 21 Mawrth 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Gorchymyn
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Rhan 39 o Atodlen 2 (amddiffyn dofednod ac adar caeth eraill dros dro)—
(a) ym mharagraff A.2(c) yn lle “on or before the relevant date” rhodder “as soon as practicable on or after the relevant date”; a
(b) ym mharagraff A.3, yn y diffiniad o “relevant date” yn lle “2008” rhodder “2009”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2008