
2008 Rhif 466 (Cy.41)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 22 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Chwefror 2008
Yn dod i rym 12 Mai 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(2), 95A(5), 97 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (a pharagraffau 2, 4(1), 5(2), 8(a) a 9(b) o Atodlen 4B iddi) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2008. Deuant i rym ar 12 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn y testun Cymraeg, yn Rheoliad 5(3), rhodder y gair “brintiedig” yn lle'r gair “brintiadwy”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2008