
2008 Rhif 450 (Cy.40)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008
Gwnaed 19 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Chwefror 2008
Yn dod i rym 18 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â'r personau y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan adran 4(3) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dod i rym a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Mawrth 2008.
(2) Dim ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys ac mae'n cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008—2009 a'r blynyddoedd ariannol sy'n dilyn.
Dangosyddion perfformiad
2 
Mae'r dangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt i fesur perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau wedi'u pennu drwy hyn yn—
(a) Atodlen 1 (Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol); a
(b) Atodlen 2 (Ymateb Effeithiol).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2008
ATODLEN 1
Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol
Erthygl 2


Cyfeirnod Dangosydd
FRS/RRC/S/001 
i) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;
ii) Cyfanswm nifer y prif danau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;
iii) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd drwy ddamwain mewn anheddau fesul 10,000 o anheddau;
iv) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 10,000 o'r boblogaeth.
FRS/RRC/S/002 Nifer:
i) y marwolaethau a achoswyd gan danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;
ii) y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;
iii) y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth;
iv) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;
v) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;
vi) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth.
FRS/RRC/S/003 Cyfanswm nifer y tanau mewn mangreoedd annomestig fesul 1,000 o fangreoedd annomestig.
FRS/RRC/S/004 
i) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân (“YAGT”)) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth pum-munud.
ii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud.
iii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd y tu allan i'r safon gwasanaeth deng-munud.
iv) Cyfanswm nifer y tanau mewn cartrefi lle'r oedd asesiad risg diogelwch tân cartref a/neu gweithgaredd cysylltiedig i leihau risg wedi'u cynnal o fewn dwy flynedd i'r tân.
ATODLEN 2
Ymateb Effeithiol
Erthygl 2


Cyfeirnod Dangosydd
FRS/EFR/S/001 Y ganran o danau mewn anheddau, sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud fel y nodwyd gan bob Awdurdod Tân ac Achub, ac yr aed atynt o fewn deng munud.
FRS/EFR/S/002 Y ganran o danau mewn anheddau, y mae model Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân wedi nodi bod eu cyfradd anafiadau yn uwch na chwech, ac yr aed atynt o fewn pum munud.