
2008 Rhif 371 (Cy.37)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2008
Gwnaed 14 Chwefror 2008
Yn dod i rym 28 Chwefror 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 28 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cyrff penodedig
2 
Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985—
(a) Accord Mortgages Limited (Cwmni Rhif 02139881);
(b) Beacon Homeloans Limited (Cwmni Rhif 05304252);
(c) Morgan Stanley Bank International Limited (Cwmni Rhif 03722571).
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
14 Chwefror 2008