
2008 Rhif 3266 (Cy.288)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008
Gwnaed 19 Rhagfyr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym 12 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop â'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2009.
Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008.
2 
Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)
3 
Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned”, ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—“
(c) Penderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC yn awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro BSE flynyddol;”.
Diwygio rheoliad 20 (gorfodi)
4 
Yn rheoliad 20 yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n gorfodi mewn lladd-dai a safleoedd torri:—
(a) Atodlen 7; a
(b) paragraff 1A, paragraff 2 a pharagraff 3
 o Atodlen 8.”.
Diwygio Atodlen 2
5 
Yn Atodlen 2—
(a) yn lle paragraff 1 rhodder—“
Hysbysiad o gorff gafr at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned
1 

(1) At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff gafr 18 mis oed neu drosodd pan fu farw yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth,—
(a) o fewn 24 awr o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth y corff i'w feddiant neu dan ei reolaeth hysbysu Gweinidogion Cymru; a
(b) os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo felly, ei gadw hyd nes ei fod yn cael ei gasglu gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan,
ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr a gigyddwyd i'w bwyta gan bobl neu a gafodd eu lladd yn unol ag Atodlen 4.
Danfon corff anifail buchol at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned
1A 

(1) At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth, y mae'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 24 awr, naill ai—
(a) gwneud trefniadau gyda pherson arall i'r person hwnnw ei gasglu a'i ddanfon i safle samplu a gymeradwywyd o fewn 72 o oriau; neu
(b) dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu a danfon yr anifail i'r safle hwnnw fel y bydd yn cyrraedd y safle o fewn 72 o oriau
ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Mae'r cyfnodau o 24 awr a 72 awr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yn cychwyn o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth i feddiant neu dan reolaeth y person y mae gofynion yr is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo.
Personau sy'n casglu ac yn danfon
1B 
Rhaid i berson y gwneir trefniadau gydag ef o dan baragraff 1A i ddanfon corff i safle samplu, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 48 o oriau i'r amser pan ddaw'r corff i feddiant neu dan reolaeth y person hwnnw—
(a) dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu; a
(b) sicrhau fod y corff yn cael ei ddanfon i'r safle hwnnw,ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
Difa heb samplu
1C 
Mae unrhyw berson sy'n difa corff anifail buchol y mae paragraff 1A yn gymwys iddo cyn iddo gael ei samplu mewn safle samplu a gymeradwywyd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, yn cyflawni tramgwydd.
Cadw cyrff anifeiliaid buchol tra'n disgwyl canlyniadau profion
1CH 
Mae'n rhaid i safle samplu a gymeradwywyd yr anfonwyd corff buchol iddo i'w samplu yn unol â'r Rhan hon gadw'r sampl yn unol â phwynt 6(3) o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd; a”
(b) ar ôl paragraff 4 mewnosoder—“
Safleoedd samplu a gymeradwywyd
4A 

(1) Ar dderbyn cais mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo safle samplu i samplu anifeiliaid y mae paragraff 1A yn gymwys iddynt os ydynt wedi'u bodloni fod gan y safle samplu weithdrefnau rheoli digonol i wneud y samplu.
(2) Ystyr “safle samplu a gymeradwywyd” (“approved sampling site”) yn y Rhan hon yw safle samplu a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn neu safle samplu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i wneud gwaith samplu at yr un diben.”.
Diwygio Atodlen 3
6 
Yn Atodlen 3 paragraff 5, is-baragraff (3) yn lle “is-baragraff 2(b)(ii)” rhodder “is-baragraff 1(b)(ii)”.
Disodli Atodlen 8
7 
Yn lle Atodlen 8 rhodder yr atodlen newydd a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 12 (penodi arolygwyr)
8 
Yn rheoliad 12 yn lle “Atodlen 7” rhodder “Atodlenni 7 ac 8”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Rhagfyr 2008
YR ATODLEN
Yr Atodlen 8 Newydd
Rheoliad 7
“
ATODLEN 8
Cyfyngiadau ar osod ar y farchnad ac allforio
Rheoliad 5
Gosod cynhyrchion buchol ar y farchnad neu eu hallforio i drydydd gwledydd
1.A 

(1) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd unrhyw gynhyrchion sy'n cynnwys neu sydd wedi'u cyfansoddi o unrhyw ddeunydd (ac eithrio llaeth) sy'n tarddu o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.
(2) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i grwyn anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 (gan gynnwys crwyn o anifeiliaid buchol y cyfeirir atynt yn nhrydydd indent pwynt 1(a) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned) a gafodd eu defnyddio i gynhyrchu lledr yn unol ag Erthygl 1(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC;
(3) At y diben o orfodi darpariaethau'r paragraff hwn caiff person a benodwyd yn arolygydd mewn perthynas â marchnad grwyn neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth hefyd arfer pwerau arolygydd.
Rhoi anifeiliaid buchol ar y farchnad neu eu hallforio i drydydd gwledydd
1B 

(1) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad VIII i Reoliad TSE y Gymuned anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.
(2) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i osod anifeiliaid o'r fath ar y farchnad i'w gwerthu neu i'w cyflenwi i unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig.”

Allforio pennau a charcasau heb eu hollti i Aelod-wladwriaethau
2 
Yn ddarostyngedig i bwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) unrhyw ben neu garcas heb ei hollti sy'n cynnwys deunydd risg
penodedig i Aelod-wladwriaeth arall, yn absenoldeb unrhyw gytundeb o'r math a bennir ym mhwynt 10(1) o'r Atodiad hwnnw.
Allforio cynhyrchion sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i drydydd gwledydd
3 
Yn unol â phwynt 10(3) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd pennau neu gig ffres anifeiliaid o deulu'r fuwch, y ddafad neu'r afr sy'n cynnwys deunydd risg penodedig.
Penodi arolygwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
4 
Er dibynnion paragraffau 1A, 2 a 3 o'r Atodlen hon, o fewn lladd-dy neu safle torri, arolygydd yw person a aphwyntwyd i'r dibyn hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.