
2008 Rhif 3153 (Cy.281)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 9 Rhagfyr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym 1 Ionawr 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 1973 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraph 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2009.
Diwygiadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 3, paragraph 1(dd), mewnosoder—“
(e) cynnal profion o dan bwynt 4(b)(i) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd;
(f) cynnal profion o dan bwynt 4(b)(ii) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ff) cynnal profion o dan bwynt 4(b)(iii) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd.”
(3) Ar ôl rheoliad 3, paragraff 2(b), mewnosoder—“
(c) y person sydd â gofal daliad pan wneir profion mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraffau (1)(e), (1)(f) ac (1)(ff).”
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2008