
2008 Rhif 3152 (Cy.280)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008
Gwnaed 8 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dyddiedig Chwefror 2008 ar eu hadolygiad o gymunedau o fewn rhan o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'u cynigion ar eu cyfer.
Penderfynodd Gweinidogion Cymru roi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2009.
(3) Daw erthygl 8 i rym—
(a) at ddibenion gweithrediadau rhagarweiniol i unrhyw etholiad sydd i'w gynnal neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;
(b) at bob diben arall, ar ddiwrnod arferolethol cynghorwyr yn 2012.
(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2009, sef y dyddiad penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Map A” yw'r map sydd wedi'i farcio “Map A, Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “Map B” yw'r map sydd wedi'i farcio “Map B, Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “Map C” yw'r map sydd wedi'i farcio “Map C, Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 ;
 mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o fewn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; a
 pan ddangosir ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, llwybr troed, cwrs dwr neu nodwedd ddaearyddol cyffelyb, rhaid ei thrin fel petae yn rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd honno.
Llanharan a Phont-y-clun — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
3 
Mae'r rhan honno o gymuned Llanharan a ddangosir fel ardal resog “A” ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;
(b) yn ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy yng nghymuned Pont-y-clun; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.
Llantrisant a Phont-y-clun — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.
4 
Mae'r rhan honno o gymuned Llantrisant a ddangosir fel ardal resog “B” ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;
(b) yn ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy o fewn cymuned Pont-y-clun; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.
Llanharan a Llantrisant — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.
5 
Mae'r rhan honno o gymuned Llanharan a ddangosir fel ardal resog “C” ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llantrisant;
(b) yn ffurfio rhan o ward Tonysguboriau o fewn cymuned Llantrisant; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tonysguboriau.
Llanhari a Phont-y-clun — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.
6 
Mae'r rhan honno o gymuned Llanharri a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap B—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;
(b) yn ffurfio rhan o ward of Maes-y-felin o fewn cymuned Pont-y-clun; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.
7 
Mae'r rhan honno o gymuned Pont-y-clun a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap C—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llanhari;
(b) yn ffurfio rhan o ward Llanhari o fewn cymuned Llanharri; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanhari.
8 
Yng nghymuned Pont-y-clun y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Cefnyrhendy yw 5, y nifer ar gyfer ward Groes-faen yw 1, y nifer ar gyfer ward Maes-y-felin yw 4 a'r nifer ar gyfer ward Meisgyn yw 1.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2008

