
2008 Rhif 3144 (Cy.279)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Rhwydi Pysgota Berdys (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 8 Rhagfyr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym 2 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yng Ngorchymyn 2008 fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 3(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhwydi Pysgota Berdys (Cymru) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 2 Ionawr 2009.
Diwygiadau
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Rhwydi Pysgota Berdys (Cymru) 2008 fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3, paragraff 1(d), o'r testun Saesneg yn lle “or” rhodder “of”, ac yn erthygl 3, paragraff 1(ch) o'r testun Gymraeg dileer y gair “ac”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2008