
2008 Rhif 2997 (Cy.262)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 17 Tachwedd 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Tachwedd 2008
Yn dod i rym 11 Rhagfyr 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989
2 

(1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (Prisio ar sail y contractiwr) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1C) hepgorer y geiriau “or after”.
(3) Ar ôl paragraff (1C) mewnosoder—“
(1D) Paragraph (2D) of this regulation applies in relation to a hereditament, shown in a non-domestic rating list compiled on or after 1 April 2010, the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.”
(4) Ar ôl paragraff (2C) mewnosoder—“
(2D) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1D) of this regulation applies, the appropriate rate is to be assumed to be—
(a) in the case of a defence hereditament, an educational hereditament, a health care hereditament or a hereditament which is wholly a public convenience 2.97 per cent; and
(b) in any other case 4.5 per cent.”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2008