
2008 Rhif 2943 (Cy.260)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Cyfarwyddiadau ac Amodau Gweithgareddau Cyswllt: Cymorth Ariannol) (Cymru) 2008
Gwnaed 13 Tachwedd 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Tachwedd 2008
Yn dod i rym 8 Rhagfyr 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 11F(3), (6) a (7) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Cyfarwyddiadau ac Amodau Gweithgareddau Cyswllt: Cymorth Ariannol) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 8 Rhagfyr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “achosion teuluol” yr ystyr sydd i “family proceedings” yn y Rheoliadau Ariannol;
 mae i “amod gweithgaredd cyswllt” yr ystyr sydd i “contact activity condition” yn adran 11C(2) o'r Ddeddf;
 mae i “cyfarwyddyd gweithgaredd cyswllt” yr ystyr sydd i “contact activity direction” yn adran 11A(3) o'r Ddeddf;
 ystyr “darparydd a gymeradwyir” (“approved provider”) yw person a gymeradwyir am y tro—
(a) gan Weinidogion Cymru, pan fo'r gweithgaredd cyswllt yn cael ei ddarparu yng Nghymru, neu
(b) gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd, pan fo'r gweithgaredd cyswllt yn cael ei ddarparu yn Lloegr,yn ddarparydd gweithgareddau cyswllt;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
 mae i “gwasanaethau a ariennir” yr ystyr sydd i “funded services” yn y Rheoliadau Ariannol;
 ystyr “gweithgaredd cyswllt” (“contact activity”) yw gweithgaredd sy'n hybu cyswllt â phlentyn ac y mae cyfarwyddyd gweithgaredd cyswllt neu amod gweithgaredd cyswllt yn ei wneud yn ofynnol;
 ystyr “Rheoliadau Ariannol” (“Financial Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (Ariannol) 2000;
 mae i “tystysgrif” yr ystyr sydd i “certificate” yn y Rheoliadau Ariannol;
 ystyr “unigolyn cymwys” (“qualifying individual”) yw unigolyn sy'n dod o fewn adran 11F(4) o'r Ddeddf.
Cymorth Ariannol
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i gynorthwyo unigolyn cymwys i dalu tâl neu ffi mewn cysylltiad â gweithgaredd cyswllt.
(2) Ni chaniateir gwneud taliadau o dan baragraff (1) oni bai—
(a) bod adnoddau ariannol yr unigolyn cymwys fel a ganlyn, sef—
(i) yn sgil dyfarnu yn unol â'r Rheoliadau Ariannol bod yr unigolyn yn gymwys yn ariannol i gael gwasanaethau a ariennir mewn perthynas ag achosion teuluol, bod tystysgrif wedi ei dyroddi i'r unigolyn mewn perthynas â'r achos teuluol y gwnaed neu y gorfodwyd ganddo y cyfarwyddyd gweithgaredd cyswllt neu'r amod gweithgaredd cyswllt, a'i gwnâi'n ofynnol i'r unigolyn gymryd rhan yn y gweithgaredd cyswllt; neu
(ii) os nad yw'r unigolyn yn bodloni'r amod yn is-baragraff (a)(i), bod Gweinidogion Cymru'n fodlon bod yr unigolyn yn debygol o ddioddef caledi ariannol os yw'n ofynnol iddo dalu'r tâl neu'r ffi; a
(b) bod y gweithgaredd cyswllt yn cael ei ddarparu gan ddarparydd a gymeradwyir.
4 
Caniateir gwneud taliadau o dan reoliad 3 yn uniongyrchol i'r darparydd a gymeradwyir.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2008