
2008 Rhif 2929 (Cy.258)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008
Gwnaed 10 Tachwedd 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Tachwedd 2008
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Dirymir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008.
Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009.
(2) Yn lle atodlen 4, rhoddir yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2008
YR ATODLEN
Rheoliad 3

“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 54,000
Bridgend 104,800
Caerphilly 132,600
Carmarthenshire 141,700
Cardiff 253,600
Ceredigion 64,000
Conwy 89,200
Denbighshire 76,800
Flintshire 117,800
Gwynedd 94,000
Isle of Anglesey 54,700
Merthyr Tydfil 43,100
Monmouthshire 69,100
Neath Port Talbot 108,400
Newport 107,400
Pembrokeshire 92,200
Powys 104,600
Rhondda Cynon Taf 182,400
Swansea 182,200
Torfaen 70,800
Vale of Glamorgan (The) 95,900
Wrexham 103,700”
