
2008 Rhif 2774 (Cy.247)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Twbercwlosis (Profi a Phwerau Mynediad) (Cymru) 2008
Gwnaed 21 Hydref 2008
Yn dod i rym 22 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 62D o'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 , yn gwneud y Gorchymyn canlynol—

Yn unol ag adran 62D o'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Profi a Phwerau Mynediad) (Cymru) 2008; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym drannoeth diwrnod ei wneud.
Pennu “disease”
2 
Mae twbercwlosis wedi'i bennu'n glefyd (“disease”) at ddibenion adran 62D (profion a samplau: pwer mynediad) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2008