
2008 Rhif 2716 (Cy.245)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008
Gwnaed 16 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Hydref 2008
Yn dod i rym 7 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972,a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diben y cyfeirir ato yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2008.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliad Ewropeaidd” (“the European Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd ;
 ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 ;
 ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 neu bwynt 2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau dodwy o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Ffioedd
3 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd, yn eu barn hwy, yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—
(a) cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;
(b) archwilio samplau rheoli swyddogol;
(c) prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ch) prosesu dogfennau cofrestru blynyddol mewn perthynas â labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(d) archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(dd) gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.
(2) Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan—
(a) y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(a) a (b); a
(b) gweithredydd y labordy mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(c) i (dd).
(3) Rhaid talu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais gan Weinidogion Cymru.
Dirymiad
4 
Dirymir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2008