
2008 Rhif 2701 (Cy.241)
PRIFFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008
Wedi'i wneud 10 Hydref 2008
Yn dod i rym 30 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer pwerau a roddir gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a phob pwer galluogi arall, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 
Daw'r priffyrdd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu hadeiladu ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffyrdd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.
2 
Mae llinellau canol y cefnffyrdd newydd yn cael eu dangos gan linellau duon trymion ar y plan a adneuwyd.
3 
Bydd y darn o gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau lletraws â stribedi bras ar y map a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddiddosbarth o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cefnffyrdd newydd wedi'u hagor ar gyfer traffig trwodd.
4 
Yn y Gorchymyn hwn:
 mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
i. ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA 10/2 NAFW 17 ac sydd wedi'i farcio Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008 ac sydd wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac a adneuwyd yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Llywodraeth Cynulliad Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;
ii. ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470);
iii. “y cefnffyrdd newydd” (“the new trunk roads”) yw'r priffyrdd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn ac ystyr 'cefnffordd newydd' yw un o'r cefnffyrdd hynny.
5 
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Hydref 2008 a'i enw yw “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008”
Llofnodwyd o dan awdurdod y Gweinidog dros Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
S C Shouler
Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
10 Hydref 2008
ATODLEN 1
LLWYBRU'R CEFNFFYRDD NEWYDD

Dyma lwybrau'r cefnffyrdd newydd, sy'n llwybrau i'r gogledd o Lanrwst rhwng Penloyn a Than Lan ym Mwrdeistref Sirol Conwy:—
(1) llwybr oddeutu 0.14 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 390 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren A ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 250 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren B ar y plan a adneuwyd).
(2) llwybr oddeutu 0.79 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren C ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren D ar y plan a adneuwyd).

ATODLEN 2
Y DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darn o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o gefnffordd yr A470 ym Mwrdeistref Sirol Conwy sydd oddeutu 0.79 cilometr o hyd ac sydd rhwng pwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau CC ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau DD ar y plan a adneuwyd).
