
2008 Rhif 2691 (Cy.239)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRUPLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 8 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Hydref 2008
Yn dod i rym 3 Tachwedd 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 68(1) a (2), 79C (2) a (3), 79M (1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 4 o Atodlen 9A iddi.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Tribiwnlys”
(b) mewnosoder y diffiniad a ganlyn yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 “y mae i'r ymadrodd “Tribiwnlys Haen Gyntaf” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007”
(3) Yn Atodlen 1, Rhan 1, paragraffau 1 a 2 yn lle “Tribiwnlys”, ym mhob man, rhodder “Tribiwnlys Haen Gyntaf”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2008