
2008 Rhif 2671 (Cy.235)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hereditamentau Cyfathrebu) (Prisio, Newid Rhestri ac Apelau a Diwrnod Perthnasol) (Cymru) 2008
Gwnaed 6 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Hydref 2008
Yn dod i rym 31 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2), (4) a (6), 143(1) a (2) a 146(6), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 2(6A) ac (8) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hereditamentau Cyfathrebu) (Prisio, Newid Rhestri ac Apelau a Diwrnod Perthnasol) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2008.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “BT” yw British Telecommunications plc;
 ystyr “Deddf 1988” (“1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 ystyr “dolen leol a ddadfwndelwyd yn llawn” (“fully unbundled local loop”) yw dolen leol a ddadfwndelwyd sydd wedi ei gosod ar rent neu ei thrwyddedu gan BT i unrhyw berson ar gyfer pob defnydd sy'n gynwysedig mewn monitro, prosesu neu drosglwyddo cyfathrebiadau neu signalau ar gyfer darparu gwasanaethau cyfathrebu electronig;
 mae i “ddolen leol a ddadfwndelwyd” yr ystyr a roddir i (“unbundled local loop”) gan reoliad 8(5) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog;
 “yr hereditament” (“the hereditament”) yw'r hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog
 ystyr “Rheoliadau NRhA” (“ALA Regulations”) yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005; ac
 ystyr “Rheoliadau Rhestr Ganolog” (“Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005.
RHAN 2 Prisio
Prisio hereditamentau cyfathrebu penodol
3 
Rhaid rhagdybio bod gosod ar rent neu drwyddedu dolen leol a ddadfwndelwyd yn llawn gan BT i unrhyw berson yn fater sy'n effeithio ar gyflwr ffisegol yr hereditament neu fwynhad ffisegol ohono at y diben o brisio'r hereditament yn unol â pharagraff 2(5) neu (6) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 (ardrethu annomestig: prisio).
RHAN 3 Newid Rhestri ac Apelau
Newid perthnasol mewn amgylchiadau
4 

(1) Ceir gwneud cynnig i newid y gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament mewn rhestr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, o dan reoliad 4(1)(b) (amgylchiadau pan ganiateir gwneud cynigion) a Rhan 3 (newid rhestri ardrethu canolog) o'r Rheoliadau NRhA, o ganlyniad i osod ar rent neu drwyddedu dolen leol a ddadfwndelwyd yn llawn gan BT i unrhyw berson.
(2) Mewn perthynas â chynnig o'r fath, mae rheoliad 4(1)(b) o'r Rheoliadau NRhA i gael effaith fel pe bai “material change of circumstances” yn cynnwys y mater y rhagdybir gan reoliad 3 yn y Rheoliadau hyn fel ei fod yn effeithio ar gyflwr ffisegol yr hereditament neu fwynhad ffisegol ohono at y diben o'i brisio yn unol â pharagraff 2(5) neu (6) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988.
Addasu rheoliad 6 o'r Rheoliadau NRhA
5 
Pan wneir cynnig yn unol â rheoliad 4(1), mae rheoliad 6(1)(e)(ii) o'r Rheoliadau NRhA i gael effaith fel pe bai hefyd yn mynnu bod datganiad yn cael ei gynnwys sy'n nodi nifer y dolennau lleol a ddadfwndelwyd yn llawn sy'n gynwysedig yn yr hereditament ar y dyddiad effeithiol a gynigir yn y cynnig hwnnw.
RHAN 4 Diwrnod Perthnasol
Diwrnod perthnasol ar gyfer prisio
6 
Mae rheoliad 3(7)(b)(i) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Y Diwrnod Perthnasol ar gyfer Newid Rhestri) 1992 i gael effaith, mewn perthynas a chynnig a wneir yn unol â rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn fel pe bai'r diwrnod perthnasol ar gyfer unrhyw ddolen leol benodol a ddadfwndelwyd yn llawn yw'r diwrnod y'i gosodwyd ar rent neu y'i trwyddedwyd gan BT.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2008