
2008 Rhif 2629 (Cy.229)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 3 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Hydref 2008
Yn dod i rym 28 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 102, adran 108(2) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, ac wedi gwneud y cyfryw drefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 28 Hydref 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn erthygl 3(1) o destun Cymraeg Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008 yn lle “Y darpariaethau” rhodder “Mae'r darpariaethau”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2008