
2008 Rhif 2602 (Cy.228)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 1 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Hydref 2008
Yn dod i rym 29 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e),17(1), (26)(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008; a
(b) deuant i rym ar 29 Hydref 2008.
Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn lle darpariaethau rheoliad 3 (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol oni fo amodau penodol wedi'u bodloni) rhodder y darpariaethau canlynol—“
(1) Ni chaiff neb farchnata fformiwla sy'n torri rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 15, 17, 19 neu 20(1) neu nad yw'n cydymffurfio â hwy.
(2) Ni chaiff neb farchnata fformiwla ddilynol sy'n torri rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 16, 18, 19 neu 20(2) neu nad yw'n cydymffurfio â hwy.”.
(3) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 20 (cyflwyno (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)) rhodder y paragraffau canlynol—“
(1) Rhaid i gyflwyniad fformiwla fabanod gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 17(1)(d), (2), (3) a (4) ac 19.
(2) Rhaid i gyflwyniad fformiwla ddilynol gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 18(2) ac 19.”.
(4) Yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1) o reoliad 26 (allforio fformiwla fabanod i drydydd gwledydd) rhodder yr is-baragraff canlynol—“
(a) rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 17, 19 neu 20(1);”.
(5) Yn lle paragraff (a) o reoliad 27 (allforio fformiwla ddilynol i drydydd gwledydd) rhodder y paragraff canlynol—“
(a) rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 18, 19 neu 20(2);”.
(6) Yn lle paragraff (3) o reoliad 31 (dirymu a threfniadau trosiannol) rhodder y paragraff canlynol—“
(3) Mewn perthynas ag unrhyw dorri rheol neu fethiant i gydymffurfio cyn 1 Ionawr 2010, nid yw unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan reoliad 28(1) sy'n cynnwys torri rheol neu fethiant i gydymffurfio ag—
(a) rheoliad 3(1),—
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12 neu 14 (1), (2) neu (3), a
(ii) nad yw'r weithred honno yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â Rheoliad 2(a)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny;
(b) rheoliad 3(1),—
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 17 neu 19, a
(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(a)(iii) o'r Rheoliadau hynny;
(c) rheoliad 3(1),—
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 20(1) i'r graddau y mae rheoliad 20(1) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r fformiwla fabanod honno, a
(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(a)(iv) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 2(a)(iv) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw;
(ch) rheoliad 3(2),—
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12 neu 14 (1), (2) neu (3), a
(ii) nad yw'r weithred honno yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(a) neu (b) o'r Rheoliadau hynny;
(d) rheoliad 3(2),—
(i)  os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu a chydymffurfio â rheoliad 18 neu 19, a
(ii) na fyddai'r weithred honno petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(c) o'r Rheoliadau hynny;
(dd) rheoliad 3(2),—
(i)  os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu a chydymffurfio â rheoliad 20(2) i'r graddau y mae rheoliad 20(2) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r fformiwla ddilynol honno, a
(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(d) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 3(d) yn gymwys i siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw; neu
(e) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny;
(f) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(iii) o'r Rheoliadau hynny; neu
(ff) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(iv) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 2(b)(iv) yn gymwys i siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw.”.
Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ôl rheoliad 7 (cymhwyso) mewnosoder y rheoliad canlynol—“
Trefniadau trosiannol
8 
O ran unrhyw dorri rheol cyn 1 Ionawr 2010, ni fydd unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan reoliad 5(a) sy'n torri rheoliad 3(1)(a) os yw'r weithred a fyddai fel arall yn ffurfio tramgwydd yn cynnwys gwerthu bwyd meddygol y mae ei gyfansoddiad yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb fel y'i darllenir gyda'r rhes o ran manganîs a osodir yn ail ran Tabl 1 (mwynau) yn yr Atodiad i'r Gyfarwyddeb fel yr oedd yn sefyll cyn iddi cael ei diwygio gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21.EC.”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
1 Hydref 2008