
2008 Rhif 2568 (Cy.226)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008
Gwnaed 1 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Hydref 2008
Yn dod i rym 27 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) 2007.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2 

(1) Diwygir rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “teulu” (“family”), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) yn rheoliad 5(1)(ch) mewn perthynas â pherson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi y mae iddo'r ystyr sydd iddo yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau Lwfans Cyflogi a Chefnogi 2008,”.
(3) Yn y testun Cymraeg, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (lwfans cyflogi a chefnogi);”.
Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
3 

(1) Diwygir rheoliad 5 (1) o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—“
(bb) sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm;”.
(3) Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) ar ôl “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2008