
2008 Rhif 2438 (Cy.211)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Gwnaed 15 Medi 2008
Yn dod i rym 16 Medi 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 203(9) a (10) a pharagraff 9(1) o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 16 Medi 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 16 Medi 2008.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
2 
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir yr eiddo o'r enw Y Storfa Ganolog, Cyflenwadau Iechyd Cymru. Ysbyty Tywysoges Cymru, Heol Coety, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1UZ a phob hawl a rhwymedigaeth sydd ynghlwm wrth yr eiddo hwnnw o Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2008