
2008 Rhif 2370 (Cy.205)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (Uchafsymiau a Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2008
Gwnaed 6 Medi 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Medi 2008
Yn dod i rym 2 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 23(1)(l), 33 a 146 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (Uchafsymiau a Dibenion Ychwanegol) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 2 Hydref 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Uchafswm y grant ar gyfer cyfleusterau i'r anabl
2 
Pan fo raid i awdurdod tai lleol gymeradwyo cais am grant ar gyfer cyfleusterau i'r anabl yn rhinwedd adran 23(1) o'r Ddeddf (grantiau: dibenion y mae'n rhaid rhoi grant ar eu cyfer neu ddibenion y caniateir rhoi grant ar eu cyfer), £36,000 yw'r uchafswm y caiff yr awdurdod ei dalu o ran y cais.
Dibenion y caniateir rhoi grant ar eu cyfer
3 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf, rhaid cymeradwyo cais am grant ar gyfer cyfleusterau i'r anabl pan fo'r cais yn gais at ddiben a bennir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r dibenion——
(a) hwyluso mynediad i ardd ac o ardd gan feddiannydd anabl; neu
(b) gwneud mynediad i ardd yn ddiogel i feddiannydd anabl.
(3) At ddibenion paragraff (2) ystyr “gardd” yw gardd sy'n perthyn i annedd neu a fwynheir fel arfer ynghyd ag annedd, carafán neu fflat a feddiennir gan feddiannydd anabl ac mae'n cynnwys—
(i) balconi sy'n cyffinio ag annedd meddiannydd anabl;
(ii) buarth, tŷ allan neu atodyn arall o fewn ffiniau'r tir lle y mae annedd neu garafán meddiannydd anabl wedi ei leoli ac sy'n perthyn iddo neu a fwynheir fel arfer gydag ef;
(iii) buarth, tŷ allan, neu atodyn arall o fewn ffiniau'r tir lle y mae'r adeilad y mae annedd neu, yn ôl y digwydd, fflat meddiannydd anabl wedi ei leoli ac sy'n perthyn iddo neu a fwynheir fel arfer gydag ef; a
(iv) y tir cyfagos i angorfa cwch preswyl cymwys y meddiannydd anabl.
(4) Os ym marn yr awdurdod tai lleol y mae'r gwaith perthnasol yn fwy neu lai helaeth na'r hyn sy'n angenrheidiol i gyflawni diben a osodir ym mharagraff (2), caiff, gyda chydsyniad y ceisydd, drin y cais fel petai wedi ei amrywio fel bod y gwaith perthnasol yn gyfyngedig i'r gwaith hwnnw sydd ym marn yr awdurdod tai lleol yn angenrheidiol at y diben hwnnw neu yn cynnwys y cyfryw waith.
(5) Yn yr erthygl hon ystyr “ceisydd” yw'r person sy'n gwneud y cais am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.
Darpariaethau sy'n peidio â bod yn effeithiol yng Nghymru
4 
Mae erthyglau 2 a 3 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996 yn peidio â bod yn effeithiol o ran Cymru.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru.
6 Medi 2008