
2008 Rhif 2364 (Cy.203)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008
Gwnaed 4 Medi 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Medi 2008
Yn dod i rym 1 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203 (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
Diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau
2 
Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (p) mewnosoder—“
 , or
(q) who the competent authorities of the United Kingdom for the purposes of the Council of Europe Convention on Action Against Trafficking in Human Beings (in this regulation “the Convention”),
(i) consider that there are reasonable grounds to believe is a victim within the meaning of Article 4 of the Convention, and the recovery and reflection period in relation to him under Article 13 of the Convention has not yet expired; or
(ii) have identified as a victim within the meaning of Article 4 of the Convention.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Medi 2008