
2008 Rhif 2298 (Cy.197)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2008
Gwnaed 28 Awst 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Medi 2008
Yn dod i rym 22 Medi 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 21(6), 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 22 Medi 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Fframwaith Cenedlaethol
2 
Mae'r Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub a baratowyd gan Weinidogion Cymru sy'n dwyn yr enw “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008 — 2011” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 28 Awst 2008 ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael effaith fel diwygiad, sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn arwyddocaol, o “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2008