
2008 Rhif 220 (Cy.27)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Cymru) 2008
Gwnaed 3 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Chwefror 2008
Yn dod i rym 29 Chwefror 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a rodddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2)(a) a 190(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac a freiniwyd bellach ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 29 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
 ystyr “y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council”) yw'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol; a
 ystyr “Cynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council’s Scheme”) yw Cynllun Amodau Gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
3 
Y swm at ddibenion adran 2(2) o'r Ddeddf (cyhyd â bod y swm yn fwy na £19,500) yw'r swm hwnnw a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o dro i dro o ran swyddi llawnamser o dan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr fel y swm a ddynodir ar gyfer pwynt 49 ar y golofn gyflog ar y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion awdurdod lleol a ymgorfforir yng Nghynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
Dirymu
4 
Dirymir Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Rhif 2) 1990.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2008